OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2362(Cy.248 ) (C. 83 )
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym, ar 1 Chwefror 2012, adran 22 o’r Ddeddf (pŵer i wahardd gwerthiannau o beiriannau gwerthu) i’r graddau nad yw wedi ei dwyn i rym eisoes.
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau o’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan y gorchymyn cychwyn O.S. 2010/930 (Cy.95) (C.63).
Darpariaeth |
Dyddiad Cychwyn |
Adran 19 |
1.4.2010 (i’r graddau y mae’n berthynol i baragraffau 14 i 17 a 18 i 19 o Atodlen 3). |
Atodlen 3, paragraffau 14 i 17 |
1.4.2010. |
Atodlen 3, paragraffau 18 a 19 |
1.4.2010. |
Mae’r darpariaethau o’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Darpariaeth |
Dyddiad Cychwyn |
Rhif yr O.S. |
Adran 36 |
19.1.2010. |
2010/30 (C.5). |
Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymiad mewn perthynas â Deddf Plant a Phobl Ifanc1933 (c. 12), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno. |
1.10.2011. |
2010/1068 (C.70) fel y’i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymiad mewn perthynas ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (c. 36), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno. |
6.4.2012. |
2010/1068 (C.70) fel y’i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
Mae amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C.5); O.S. 2010/779 (C.52); O.S.2010/1068 (C.70); O.S. 2010/1863 (C.95) ac O.S.2011/1255 (C.49).
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2362 (Cy. 248) (C. 83 )
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
Gwnaed 27 Medi 2011
Yn dod i rym 1 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 40(2)(b) o Ddeddf Iechyd 2009([1]).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009.
2. 1 Chwefror 2012 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 22 o’r Ddeddf i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
27 Medi 2011